Abertawe yn y drydedd rownd
- Cyhoeddwyd

Abertawe 3-0 York City
Er fod golwg tra wahanol ar yr unarddeg ddechreuodd y gêm i Abertawe, roedd disgwyl i'r Elyrch gael buddugoliaeth weddol hawdd yn erbyn tîm sydd dair adran yn is na nhw.
Ar ôl dim ond 82 eiliad roedd hi'n ymddangos bod y darogan yn gywir wrth i Nathan Dyer roi Abertawe ar y blaen gydag ergyd droed chwith i gornel y rhwyd.
Abertawe gafodd rhan helaeth y meddiant, ac fe ddaeth Eder o fewn trwch blewyn i sgorio'i gôl gyntaf i'r Elyrch, ond fe wyrodd ei gynnig heibio'r postyn cyn yr egwyl.
Fe ddaliodd amddiffyn yr ymwelwyr yn gadarn tan y 64ydd munud. Dyna pryd y daeth Angel Rangel o hyd i Matt Grimes, ac fe darodd ergyd daclus o'r tu allan i'r cwrt am yr ail i Abertawe.
Ychwanegodd Marvin Emnes y drydedd i'r Elyrch yn y munudau olaf.
Bydd yr Elyrch yn wynebu Hull o'r Bencampwriaeth yn Stadiwm KC yn y rownd nesaf.