Glaw trwm yn achosi llifogydd yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Drain

Mae'r gwasanaeth tân yn ardal Abertawe yn delio â chyfres o lifogydd yn dilyn glaw trwm yn oriau man bore Mercher.

Fe aeth dau berson yn sownd mewn car ar ôl gyrru i mewn i lifogydd ar Heol Ystumllwynarth am 03:23.

Mae rhannau o ddau gartref dan ddŵr yn Sgiwen, ac fe effeithiwyd ar gartref arall ar Heol Castell-nedd yn Llansawel.

Yn ardal Sandfields fe wnaeth draenau orlifo, ond ni effeithiwyd ar unrhyw adeiladau, meddai'r gwasanaeth tân.

Yn ogystal, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi eu galw i siop Costa Coffee ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd am 04:32 wedi i ddŵr ddechrau llifo i mewn i'r adeilad.