Llafur yn gwrthod pleidlais pennaeth undeb
- Cyhoeddwyd

Mae pleidlais pennaeth un o undebau llafur mwyaf y DU yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi ei wrthod.
Roedd Mark Serwotka, pennaeth undeb PCS, wedi pleidleisio dros Jeremy Corbyn, ond fe gafodd wybod na fyddai ei bleidlais yn cael ei chyfri.
Mae Mr Serwotka, o Gaerdydd, wedi beirniadu'r blaid yn y gorffennol am "symud tua'r dde".
Dywedodd y blaid na fyddai'n gwneud sylw ar achosion unigol, ond dywedodd na fyddai pobl "sydd ddim yn rhannu gwerthoedd Llafur" yn cael pleidlais.
Dyw undeb PCS, sy'n cynrychioli gweision sifil, ddim yn gysylltiedig â'r Blaid Lafur.
Gwrthod 3,200
Fe ddywedodd gwraig Mr Serwotka, Ruth, ar Twitter: "Mark wedi cael ei wahardd rhag pleidleisio mewn etholiad Llafur er ei fod yn aelod. Rwy'n awyddus i glywed y rhesymau."
Mewn cyfweliad yn 2011, dywedodd Mr Serwotka ei fod wedi rhoi ei bleidlais i'r Blaid Werdd yn etholiad 2010, ac ychwanegodd: "Yn tyfu i fyny yng Nghymru, roedd hi'n Llafur, Llafur, Llafur. Ond ers iddi symud tua'r dde, dyw Llafur ddim i mi."
Mae Mr Serwotka yn un o 3,200 o bobl sydd wedi cael eu gwahardd rhag pleidleisio yn y ras am arweinyddiaeth Llafur ar ôl cofrestru fel aelodau.