UKIP yn gwahardd ymgeisydd isetholiad am sylw 'nwyo'
- Cyhoeddwyd

Mae UKIP Cymru wedi gwahardd ymgeisydd mewn isetholiad cyngor wedi iddo ysgrifennu ar wefan gymdeithasol y dylai mewnfudwyr gael eu 'nwyo'.
Fe wnaeth Bobby Douglas hefyd awgrymu y dylai dynes Americanaidd na gafodd fynediad i'r DU fod wedi "paentio ei hun yn ddu a chymryd arni nad oedd hi'n gallu siarad Saesneg" er mwyn derbyn budd-daliadau.
Bydd Mr Douglas nawr yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn isetholiad i Gyngor Caerffili.
Dywedodd ei fod yn difaru unrhyw dramgwydd oedd ei sylwadau wedi'u hachosi. Mae'r negeseuon wedi eu tynnu o'r wefan bellach.
Bydd y bleidlais yn cymryd lle yn ward Bedwas, Tretomas a Machen ar 3 Medi.
Fe gafodd y sylwadau, gafodd eu gwneud ar wefan Facebook yn 2014, eu datgelu gan y Caerphilly Observer.
'Siomedig iawn'
Dywedodd Mr Douglas: "Doeddwn i ddim yn aelod o'r blaid pan gafodd y sylwadau eu gwneud. Rwy'n derbyn y cyfrifoldeb am y sylwadau, ac rwyf felly yn dod a fy aelodaeth i ben."
Dywedodd cydlynydd etholiad y Cynulliad UKIP, Sam Gould, ei fod yn "siomedig iawn".
"Mae'r sylwadau yn ffiaidd," meddai. "Doedd y sylwadau Facebook ddim yn weledol i ni pan gafodd ei ddewis.
"Fe gafodd ei wahardd o fewn dwy awr o ddarganfyddiad y sylwadau, ac nid yw'n aelod o'r blaid bellach."
Yr ymgeiswyr arall yn yr isetholiad yw Ray Davies (annibynnol), Ron Davies (Plaid Cymru), John Dew (annibynnol), Lisa Jones (Llafur), a Rita Lukins (Ceidwadwyr).