Darnau arian ganfuwyd yng Nghaernarfon yn drysor

  • Cyhoeddwyd
Arian LLandwrogFfynhonnell y llun, Robin Maggs
Disgrifiad o’r llun,
Claddwyd ceiniogau a phedwar ingot yn y pridd

Mae'r crwner wedi cadarnhau mai trysor yw'r casgliad o ddarnau arian prin a ganfuwyd yn Llandwrog ger Caernarfon.

Yn dilyn y penderfyniad bydd arbenigwyr yn rhoi gwerth ariannol i'r casgliad maes o law.

Awgrymodd yr Amgueddfa Genedlaethol fod ganddynt ddiddordeb mewn prynu'r trysor er mwyn ychwanegu at eu casgliad o arian o bwys hanesyddol.

Fe ddaeth Walter Hanks o hyd i'r trysor gyda'i synhwyrydd metel ym Mis Mawrth eleni.

Datgelwyd mai darnau arian ac ingotau Llychlynnaidd yw'r trysor sy'n dyddio nôl i'r cyfnod o gwmpas 995 OC.

Credir i'r trysor gael ei gladdu Llandwrog rhwng 1020 a 1030 OC.

Ffynhonnell y llun, Robin Maggs
Disgrifiad o’r llun,
Ingotau arian a gladdwyd yn Llandwrog

Ymhlith y darnau arian mae cynnwys 14 o geiniogau a fathwyd yn Nulyn yn ystod teyrnasiad Sihtric Anlafsson (989-1036), llywodraethwr Hiberno-Lychlynnaidd.

Mae'r ingotau arian yn werthfawr meddai Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru: "Mae tri ingot cyflawn siâp bys ac un ingot metel siâp bys anghyflawn.

"Roedd marcio ymylon yr ingotau yn arfer hynafol er mwyn profi eu purdeb, sy'n dystiolaeth y cawsant eu defnyddio mewn trafodion masnachol cyn eu claddu.

"Mae o leiaf pedwar celc a ddaeth i'r fei ar Ynys Manaw yn awgrymu fod barrau arian mewn defnydd yn economi'r Ynys rhwng y 1030au a'r 1060au, ac mae natur gymysg celc Llandwrog yn ei roi yn yr un categori.

"O'r herwydd, mae'r celc yn cyfrannu at ddatblygu ein darlun o gyfoeth ac economi yn nheyrnas Gwynedd yr 11eg ganrif."

Ffynhonnell y llun, Robin Maggs
Disgrifiad o’r llun,
Bathwyd y ceiniogau yn Nulyn