Presenoldeb disgyblion yn gwella yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae presenoldeb disgyblion ysgolion uwchradd Cymru wedi gwella - ac wedi cyrraedd record newydd.
Roedd absenoldeb disgyblion Cymru yn 6.2% yn ystod 2014/15. Roedd 1.3% o absenoldebau heb eu hawdurdodi.
Salwch oedd yn gyfrifol am 61% o'r absenoldebau a gofnodwyd.
Yn ôl y llywodraeth mae'r ystadegau absenoldeb wedi gwella yn flynyddol ers 2005.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis; "Os yw disgyblion am fanteisio yn llawn o'u haddysg mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r ysgol yn gyson.
"Rydym yn gwybod bod safonau ysgolion yn gwella yn gyffredinol yng Nghymru, ac rydym yn benderfynol o roi pob cyfle i bobl ifanc gyflawni eu potensial.
Ychwanegodd: "Mae'r ystadegau yn newyddion ardderchog gan eu bod yn dangos bod absenoldebau ar eu lefel isaf erioed.
"Mae'n rhaid llongyfarch y disgyblion a'r athrawon ymhob rhan o Gymru am eu hymdrechion a'u hymroddiad."