Gorsaf drenau newydd i Gaernarfon?
- Cyhoeddwyd

Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru wedi cyhoeddi eu cynllun newydd ar gyfer gorsaf drenau yng Nghaernarfon.
Yn ôl cefnogwyr y cynllun bydd angen £2m er mwyn gwireddu'r cynlluniau. Ar hyn o bryd mae yna orsaf "dros dro" yn y dre.
Dywedodd Dafydd Thomas, Cadeirydd Rheilffordd Ucheldir Cymru: "Mae'r cynlluniau ar gyfer yr orsaf yn parhau i ddatblygu ac mae'r broses fanwl o sicrhau'r arian angenrheidiol yn digwydd.
"Wrth geisio sicrhau'r symiau mawr sydd angen - tua £2m - mae angen gwybodaeth fanwl.
"Er mwyn gwneud hynny rydym yn gweithio yn agos gyda phensaer ac arbenigwyr eraill."
Yn ôl y rheilffordd maen nhw'n gobeithio cydweithio yn agos â phartneriaid gan gynnwys Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Os yn llwyddiannus fe allai'r gwaith ddechrau yn ystod gaeaf 2016-17.