Llyfrgell Genedlaethol: "Dim hyder"
- Cyhoeddwyd

Mae tri undeb llafur wedi beirniadu Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ddweud nad oes ganddyn nhw hyder yng ngallu'r Bwrdd i ymateb yn briodol i adroddiad diweddar ynglŷn â'u problemau rheolaeth.
Fe gyflwynwyd adroddiad PricewaterhouseCoppers i'r llyfrgell ym mis Gorffennaf.
Mae'r awduron yn hawlio "nad yw'r llyfrgell yn cael ei reoli na'i lywodraethu mewn ffordd sydd yn dilyn arferion da."
Fe gomisiynwyd yr adroddiad gan y llyfrgell yn dilyn tribiwnlys diwydiannol diweddar. Yn ol y tribiwnlys roedd y llyfrgell wedi diswyddo dau reolwr yn annheg.
Mae'r adroddiad yn gwneud 11 o argymhellion ynglŷn â chryfhau prosesau rheolaeth y Llyfrgell.
Sefydlwyd tasglu i weithredu'r argymhellion, ond mae'r undebau yn anfodlon ynglŷn â'r cysylltiadau rhwng dau aelod o'r tasglu â'r achos diswyddo annheg gwreiddiol.
Mewn llythyr at y llyfrgell dywedodd yr undebau: "Yn anffodus, fel mae pethau yn sefyll, does gan swyddogion cenedlaethol yr undebau ddim hyder yng ngallu'r Bwrdd i ymateb yn gadarnhaol i adroddiad PwC.
"Rydym yn ofni bod y gwendidau sydd eu hadnabod yn yr adroddiad, ac sydd yn peryglu dyfodol y llyfrgell, yn parhau."
Mewn llythyr a ddanfonwyd at yr undebau yn gynharach dywedodd Llywydd y llyfrgell, Syr Deian Hopkin, nad oedd e'n derbyn pryderon yr undebau, ac roedd ganddo bob hyder yng ngallu'r tasglu.