Colli swyddi Tata yn 'ergyd enfawr' i ardal Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Byddai colli cannoedd o swyddi yng nghwmni dur Tata yng Nghasnewydd yn "ergyd enfawr" i'r ardal, yn ôl arweinwyr busnes.
Dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ei fod wedi gweld cau safleoedd dur yn "dinistrio cymunedau" yn y gorffennol.
Daw'r sylw yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Tata yn rhoi'r gorau i'w safle yn Llanwern, gyda 250 o swyddi'n cael eu colli.
Dywedodd y cwmni bod rhaid iddo "leihau costau a chanolbwyntio ar greu cynnyrch mwy gwerthfawr".
Credir mai swyddi gweithwyr asiantaeth fydd y mwyafrif o'r rhai fydd yn mynd.
'Dinistrio cymunedau'
Dywedodd Iestyn Davies o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru y bydd hi'n anodd i gymaint o weithwyr medrus ddarganfod gwaith arall yn ardal Casnewydd.
"Ry'n ni wedi gweld cau gwaith dur yn dinistrio cymunedau yn y gorffennol," meddai.
"Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddenu cwmnïau rhyngwladol i Gymru ar draul cwmnïau lleol."
Dywedodd Sue Lewis, trefnydd lleol i undeb Community - sydd â'r nifer fwyaf o aelodau yn Llanwern - y byddai colli'r swyddi yn cael effaith ar yr holl gymuned.
"Am bob un person sy'n cael eu cyflogi gan Tata, mae tair swydd arall hefyd yn dibynnu ar y gweithwyr yna," meddai.
'Mesur dros dro'
Mae AS Dwyrain Casnewydd Jessica Morden wedi mynegi pryder am y gweithwyr a'u teuluoedd yn ogystal.
"Rwy'n gobeithio mai dim ond mesur dros dro fydd hyn," meddai.
"Rydw i wedi gofyn am gyfarfod gyda Tata i drafod y sefyllfa ac rydw i am godi'r mater gyda gweinidogion."
Ddydd Mercher, fe wnaeth Tata gadarnhau y bydd y felin ddur poeth ac oer yn Llanwern yn cael ei ddiffodd am y tro, ond y byddan nhw'n cael eu cadw fel y bydd yn bosib eu "hailddechrau mewn amgylchiadau mwy ffafriol".
Ychwanegodd y cwmni y bydd gweithwyr Llanwern yn cael eu hadleoli o fewn y busnes.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn edrych ar sut y gallai helpu Tata, gan alw'r newyddion yn "siomedig iawn".
Mae Tata yn cyflogi 6,950 o weithwyr ar pum safle yng Nghymru ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2015