Lluniau: Hwyl fawr i'r haf
- Cyhoeddwyd
Doedd y tywydd ddim yn wych ond roedd yr haf yn gyfle i lawer ohonom ni gael ein gwynt atom a chael cyfle i ymlacio. Dyma rai o'r lluniau amrywiol dynodd y ffotograffydd Lleucu Meinir yn ystod yr wythnosau diwethaf.

"Dyma fy chwaer Siriol yn mynd am dro gyda'i dyweddi Sam ar odre'r Aran yn Llanuwchllyn"
"Portread o Betsan Fflur yn dri mis oed gyda'i thad. Roedd hi newydd ddod mas o'r ysbyty. Dim ond pedair pwys oedd hi."
"Ieuan James o Lanbedr Pont Steffan yw'r unig un yng Nghymru sy'n dal i wneud penffrwynau ceffylau. Mae'n eu gwerthu mewn digwyddiadau ar draws y gorllewin ac yn mwynhau arddangos yn Sain Ffagan."
"Kgomsie Ngwenya, Morgan Williams a ffrind yn Stiwdio Sydyn Souled Out, digwyddiad Cristnogol i bobl ifanc yng Ngholeg y Bala."
"Dyma un o yrrwyr y peiriannau yn Gala Stêm Llanuwchllyn"
"Dyma bortread o un o gymeriadau hynod y gorllewin, Ann Williams, Y Neuadd, Llanybydder"
"Mae 'na hen ddisgw'l mla'n am dreialon Cŵn Defaid Llanllwni ar Ŵyl Banc Awst."
"Jay Lusted, seren cyfres deledu Byd Mawr y Dyn Bach, un o'r siaradwyr gwadd yng nghynhadledd Souled Out yng Ngholeg Bala"
"Ddaw'r bedol â lwc i Gymru yng Nghyprus?"