Cymraeg Caerdydd: Bale yn ymateb
- Cyhoeddwyd

Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale wedi taro 'nol yn dilyn beirniadaeth o'i agwedd tuag at y Gymraeg yn y brifddinas.
Yn ôl Mr Bale roedd dogfen "sych, technegol" yn cyfeirio at statws yr iaith yn y brifddinas wedi ei dynnu o'i gyd-destun gwreiddiol er mwyn creu'r argraff ei fod yn gwrthwynebu'r iaith Gymraeg.
Yn gynharach yr wythnos hon gyhuddwyd y Cyngor o fod yn "hurt" gan Gymdeithas yr Iaith yn dilyn anghydfod am statws y Gymraeg yng nghyd-destun polisi cynllunio'r brifddinas.
Dywedodd y Gymdeithas iddynt dderbyn llythyr gan arweinydd y Cyngor yn dweud nad yw'r Gymraeg yn rhan o 'ffabrig cymdeithasol' y brifddinas.
Dywedodd Mr Bale: "Er nad wyf yn siaradwr Cymraeg rydw i yn ymfalchïo yn fawr fy mod yn byw mewn dinas â dwy iaith swyddogol - a dros gant o rai answyddogol."
"Yn ystod y 25 mlynedd diwethaf mae nifer siaradwyr Cymraeg Caerdydd wedi mwy na dyblu. Mae'r iaith yn gymaint yn fwy o ran o fywyd y brifddinas erbyn hyn."
Cyfeiriodd Mr Bale at ei gefnogaeth i ŵyl y Gymraeg yn y ddinas, Tafwyl, a'r ganolfan newydd i'r Gymraeg sydd yn cael ei sefydlu yn yr Hen Lyfrgell.
Yn ôl Mr Bale mae'r rhain yn esiamplau gwych o sut i hyrwyddo'r Gymraeg.
Dywedodd bod angen parhau i gydweithio yn agored er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg ac osgoi creu rhwygiadau ffug ynglŷn â'r iaith.
Yn ôl Mr Bale "Fel arweinydd y Cyngor byddaf yn parhau i gefnogi'r iaith Gymraeg. O bydded i'r heniaith barhau!"
Straeon perthnasol
- 25 Awst 2015