BBC Cymru Fyw

George North yn dychwelyd i dîm Cymru i wynebu Iwerddon

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionMae gan Warburton anaf i'w ysgwydd, ond bydd North yn ennill ei 50fed cap

Mae Warren Gatland wedi dewis tîm profiadol i wynebu Iwerddon yn Nulyn ddydd Sadwrn.

Mae George North yn dychwelyd i'r tîm, a bydd yn chwarae am y tro cyntaf ers mis Mawrth - pan gafodd ei daro'n anymwybodol.

Ond dyw'r capten Sam Warburton ddim ymhlith y 23 a ddewiswyd oherwydd man anaf i'w ysgwydd.

Bydd prop Exeter, Tomas Francis, yn ennill ei gap cyntaf i Gymru, a'r ail reng Alun Wyn Jones yw'r capten.

Bydd Gatland yn dewis ei garfan o 31 o chwaraewyr ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 31 Awst.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny (Toulon), Alex Cuthbert (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Jamie Roberts (Harlequins), George North (Northampton Saints); Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch, capten), Dan Lydiate (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Paul James (Gweilch), Aaron Jarvis (Gweilch), Luke Charteris (Racing Metro), James King (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Hallam Amos (Dreigiau).