Saith Diwrnod
- Cyhoeddwyd

Wrth i'r ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur boethi'r wythnos hon, dyma rai o'r erthyglau sydd wedi hawlio sylw Catrin Beard yn ystod y dyddiau diwetha.
Un o straeon mawr yr haf yw'r dyn barfog yn ei chwedegau sydd wedi dod o nunman i gipio dychymyg y cyhoedd, a thanio brwdfrydedd o'i blaid ac yn ei erbyn gan lenwi neuaddau ledled Prydain gyda chyfarfodydd gwleidyddol, neu fel dywed Glyn Adda ar ei flog, mae Jeremy Corbyn wedi creu panig a hanner yn rhengoedd Llafur.
Sut? Yn ôl Glyn Adda, mae'r cyfan yn y gair 'egwyddor', sef y peth y mae gwleidyddion Llafur, yn draddodiadol, yn ei ofni'n fwy na dim.
Yn ôl Lyn Ebenezer yn y Cymro, wedi blynyddoedd o gelwydd a rhagrith gan arweinwyr fel Kinnock a Blair a Miliband, dyma wleidydd a wnaeth ddim byd mwy na chodi ei ben goruwch y pared a dweud yn union beth yw ei safbwynt, ac mae ei blaid erbyn hyn mor anghyfarwydd â chlywed y gwir fel nad oes ganddyn nhw ateb.
Dipyn o bicil?
Ar ôl treulio deuddydd yng nghwmni Mr Corbyn ar ei ymweliad â Chymru i hel cefnogaeth i'w ymgyrch, dywed Meic Birtwhistle wrth Golwg fod y profiad wedi bod yn anhygoel a bendigedig, a bod y cyfan yn ysbrydoliaeth iddo, i'r graddau ei fod wedi ailymuno â'r blaid y bu'n aelod ohoni am dros ddeng mlynedd ar hugain cyn cael ei dadrithio ynddi'n ddiweddar. Yn ôl Meic, mae Jeremy Corbyn yn siarad synnwyr, yn blwmp ac yn blaen.
Ond beth am fawrion Llafur? Mae'r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan yn rhannu ei farn am hynt y blaid ar wefan Cymru Fyw, ac mae yntau'n dod i'r casgliad ei bod hi mewn dipyn o bicil.
Dywed fod y goblygiadau i wleidyddiaeth Cymru yn anodd eu rhagweld cyn gwybod canlyniad y bleidlais am arweinydd. Y Torïaid fyddai'n fwya' hapus pe byddai Jeremy Corbyn yn ennill, ac eto, fe fyddai ei ethol yn arweinydd yn agor drws efallai i Blaid Cymru o achos digalonni gan Aelodau Llafur o'r Cynulliad a Thŷ'r Cyffredin fyddai ddim yn gyfforddus gyda'r cyfeiriad newydd.
Na, dyw Mr Morgan ddim mor frwd dros y don newydd, ac mae'n rhybuddio nad cymdeithas ddadl mo'r Blaid Lafur ond mudiad i ennill etholiadau a ffurfio llywodraeth gyda rhaglen gredadwy.
Gyda llaw, mae tri ymgeisydd arall am yr arweinyddiaeth, ond falle fod y ffaith i mi fethu dod o hyd i erthygl Gymraeg am yr un ohonyn nhw yn dweud rhywbeth…
Ydi, mae'n ddigon stormus yn y Blaid Lafur - a thu hwnt hefyd. Gall neb honni bod mis Awst wedi bod yn braf iawn o ran y tywydd, ond mae rhyw dda ym mhob drwg, ac mae colofnydd natur yr Herald, Bethan Wyn Jones, yn diolch i'r holl wynt a glaw rydan ni wedi'i gael eleni am wneud iddi sylwi llawer mwy ar goed nag mae wedi'i wneud erioed o'r blaen. Ac ydi, mae wrth ei bodd â nhw - mae dwy ffenest wrth ymyl lle mae'n gweithio ac mae'n gweld amrywiaeth dda ohonyn nhw bob dydd.
Ond mae cymaint mwy i goed na golygfa hardd. Coed, mae'n bur debyg, meddai, oedd ein tanwydd cyntaf - rydyn ni'n gwneud defnydd o risgl, fel corc er enghraifft, ac mae rhannau eraill o goed wedi eu defnyddio i baratoi meddyginiaethau.
Rydyn ni'n eu defnyddio i gysgodi rhag yr haul yn yr haf a rhag stormydd y gaeaf, ond yn ddiweddar, yn ôl ymchwilwyr yng Nghanada, maen nhw'n ein gwneud ni'n hapus hefyd. Mae pobl sy'n byw ar strydoedd lle mae 'na goed yn tyfu yn nodi bod manteision iechyd pendant ac ar gyfartaledd maen nhw'n teimlo saith mlynedd yn iau nag ydyn nhw.
Tybed sawl plaid fydd â pholisi plannu coed yn y maniffesto nesaf?