Ceidwadwyr yn beirniadu Plaid am beidio cyd-weithio
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies wedi cyhuddo Plaid Cymru o ragrith, wedi i Plaid Cymru wrthod unrhyw fath o gytundeb gyda'r Torïaid wedi etholiadau'r Cynulliad.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi diystyru dro ar ôl tro'r posibilrwydd o gyd-weithio gyda'r Torïaid, gan honni nad oes ganddynt fandad yng Nghymru.
Bydd etholiadau'r Cynulliad yn cael eu cynnal ym mis Mai. Nid oes gan Lafur fwyafrif clir ym mae Caerdydd, ac ar ôl perfformiad siomedig y blaid yn yr etholiad cyffredinol, mae dyfalu eisoes dros y rhan y gallai'r gwrthbleidiau chwarae mewn llywodraeth yn y dyfodol.
Mae Plaid Cymru yn dweud eu bod yn barod i ddarparu'r arweiniad i fodloni anghenion Cymru yn y dyfodol.
Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae yna elfen o ragrith yma. "Mewn un anadl maen nhw'n dweud fod angen cael gwared ar Lafur, a mewn anadl arall, maen nhw'n dweud eu bod yn barod i gefnogi llywodraeth Llafur wedi'r etholiad."
Yn gynharach yn yr haf, fe gafodd Ms Wood ei dyfynnu yn dweud nad oedd ganddi unrhyw fwriad cefnogi unrhyw blaid arall. Yn hytrach, fe ddywedodd ei bod yn canolbwyntio ar gael ei hethol yn Brif Weinidog.
Gwrthododd Andrew RT Davies roi manylion ar gyfer unrhyw fath o gytundeb y byddai'n fodlon ystyried gyda'r gwrthbleidiau eraill ac eithrio dweud na fyddai'n diystyru unrhyw gynnig.
Fe ddaeth y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn agos at lunio clymblaid "enfys" yn Cynulliad yn 2007.
Yn gynharach eleni, fe alwodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb AS, ar y pleidiau i edrych ar y sefyllfa unwaith eto, gan ddweud y gallai'r gwrthbleidiau ddisodli Llafur.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:
"Mae'r amser wedi dod i gael llywodraeth sy'n cael ei arwain gan blaid sy'n cofleidio dyletswydd i greu cyfoeth, rhannu cyfoeth, cryfhau'r GIG a rhoi pob cyfle i'r wlad ffynnu.
"Mae Plaid Cymru yn barod i ddarparu'r arweiniad i fodloni anghenion Cymru yn y dyfodol.
"Nid yw'r blaid eisiau gweithio gyda'r Ceidwadwyr am eu bod am weld y GIG a nifer o wasanaethau cyhoeddus eraill yn cael eu lleihau."