Camdrin hanesyddol: Carchar am 12 mlynedd i ofalwr

  • Cyhoeddwyd
McEwan
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Kenneth McEwen ei garcharu am 12 mlynedd yn Llys y Goron Caerdydd

Mae gweithiwr gofal wedi ei garcharu am 12 mlynedd am ymosodiadau rhyw hanesyddol mewn cartref plant yng Nghaerdydd.

Roedd Kenneth McEwan, sy'n 51 oed ac yn wreiddiol o'r Alban, yn ynysu ei ddioddefwr drwy ei roi mewn ystafell ar ei ben ei hun er mwyn ei gam-drin.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd y byddai'r bachgen yn aml yn deffro ac yn darganfod McEwan yn feddw yn ei lofft.

Digwyddodd yr ymosodiadau yng nghartref gofal Taff Vale yn yr Eglwys Newydd, cartref sydd bellach wedi cau.

Clywodd y llys hefyd bod McEwan wedi mynd a'r plentyn "ar wyliau" i gartref gofal yn Llundain, lle wnaeth ymosod arno mewn pwll nofio.

Fe wnaeth y dioddefwr gysylltu gyda'r heddlu'r llynedd, 30 mlynedd yn ddiweddarach, a chafodd McEwan ei arestio.

Ddydd Iau, cafwyd yn euog o ymosod yn anweddus ac o anwedduster difrifol gan y rheithgor.

Wrth ei garcharu am 12 mlynedd, dywedodd y Barnwr, David Aubrey, ei fod wedi torri ymddiriedaeth mewn modd difrifol iawn.