Dyn wedi marw mewn coedwig ger Abercynon
- Published
Mae dyn wedi marw wrth weithio mewn coedwig yn Rhondda Cynon Taf, yn ôl yr heddlu.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i goedwig Carnetown ger Abercynon am tua 15:00 ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn wedi marw ar y safle, a bod swyddogion yn ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydyn ni wedi cael gwybod am ddamwain farwol yn ymwneud a chontractwr yn gweithio mewn coedwig dan reolaeth CNC ger Abercynon.
"Nid oedd y contractwr yn gweithio'n uniongyrchol i CNC ond roedd yn torri coed ar ran masnachwr.
"Mae ein cydymdeimladau gyda theulu'r dyn. Byddwn yn gweithio gyda'r masnachwr a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod ymchwiliad trylwyr."