Criw'r 'Mimosa' yn gadael y Wladfa
- Cyhoeddwyd

Mae cynhyrchiad Theatr Ieuenctid Clwyd Theatr Cymru o sioe gerdd 'Mimosa' wedi bod yn perfformio ym Mhatagonia.
Mae rhai o aelodau Theatr Ieuenctid yr Urdd yn y cast, a maen nhw wedi bod yn rhannu eu profiadau am ddechrau'r daith eisioes ar Cymru Fyw, ond nawr, hanes trwch eu taith i Dde America. Dyma'u dyddiadur:
Profiad emosiynol
Perfformio ym Mhorth Madryn - am gyfle gwych. Ymwelon yn y bore â'r Bae Newydd i wylio morfilod - yna symud ymlaen i ddinas Borth Madryn i ymweld â'r ogofau a gynigodd gysgod i'r fintai gyntaf o Gymru. Cawsom y cyfle i ganu 'Anthem Patagonia' ger yr ogofau - profiad a fydd yn aros yn ein calonnau am byth.
"Cawsom y cyfle i ganu 'Anthem Patagonia' ger yr ogofau - profiad a fydd yn aros yn ein calonnau am byth."
Roedd y perfformiad y noson honno yn hollol emosiynol wrth i'r gynulleidfa a'r criw deimlo holl emosiynau'r daith. Yn sicr roedd perfformio ym Mhorth Madryn wedi i ni ymweld â'r ogofau yn rhoi gwedd newydd i'r perfformiad.
Hen Wlad fy Nhadau
Yna, y diwrnod wedyn, Y Gaiman. Pentref Cymreig ei naws, llawn hanes ac ysbrydoliaeth. Cawsom gyfle i ymweld â'r amgueddfa cyn perfformio yn y nos. Yn yr amgueddfa roedd haearn smwddio William Jones a nifer o eiddo eraill y fintai gyntaf. Roedd y Gimnasio yn y Gaiman yn enfawr a chawsom gynulleidfa lawn yn gwylio'r perfformiad.
Dangosodd yr adborth yn dilyn y perfformiad pa mor bwysig yw'r daith yma, nid yn unig i ni, ond hefyd i aelodau'r gymdeithas Gymraeg yn Gaiman. Wedi'r perfformiad cawsom Asado - bwyd blasus, adloniant a chroeso cynnes. Gorffennwyd y noson trwy ganu 'Mae hen wlad fy nhadau'. WAW!
Taith o hanes Gaiman
Y diwrnod wedyn cawsom fynd yn ôl i'r Gaiman i gael te yn un o dai te y Gaiman. Roedd y bwyd yn anhygoel, llawer o gacennau, scons a tharten afal...heb anghofio'r te! Wedi'r te fe grwydrom ni o amgylch nifer o adeiladau hanesyddol Gaiman megis yr ysgol gyntaf, Coleg Camwy a'r tŷ cyntaf a adeiladwyd yn y Gaiman. I orffen y diwrnod hanesyddol cawsom ymweld â mynwent Gaiman lle mae bedd Kate Jones, prif gymeriad sioe y Mimosa. Diolch enfawr i Luned Gonzales am ein tywys o amgylch y pentref. Diwrnod anhygoel!!
Croesi'r Paith
Taith ar draws y Paith - Gadael am 8 y bore i ddechrau ar siwrne hir, 10 awr dros y paith o Drelew i Esquel. Ond, er syndod, roedd y daith yn un bythgofiadwy, prydferth a llawn hanes. Roedd yr anialwch o'n amgylch yn ail-greu taith y Cymry tuag at eu bywyd newydd. Gwelsom anifeiliaid o pob math ar ein ffordd - ceffylau, fflamingos a ganapoe...golygfeydd fyddem ni byth yn eu gweld yn Nghymru fach. Wrth i ni agosáu at Esquel roedd eira i'w weld ar fynyddoedd yr Andes yn y pellter a gwelsom Gauchos hefyd.
Perfformiad a gweithdy yn Esquel
Cyrraedd tref brydferth Esquel a chael sioc ei bod cymaint llai na Threlew o ran maint. Mynyddoedd yr Andes yn ein hamgylchynu ac edrych ymlaen i weld mwy o'r dref. Amser i grwydro'r dre hardd yma bore ma. Roedd llawer o siopau bach hyfryd a digon o fannau bwyta. Ond i ginio heddiw cawsom wahoddiad i dŷ teulu Michael (sydd yn rhan o'r sioe). Croeso cynnes, bwyd bendigedig a hefyd adloniant wrth i ni glywed Michael yn chwarae'r ffidil a gweddill y criw yn chwarae nifer o offerynnau i greu band.
Ymlaen i'r Ganolfan yn Esquel lle'r oedd na bobl frwdfrydig iawn yn disgwyl am ein gweithdy. Hyfryd oedd gweld y bobl yn barod i sôn am y syniadau oedd ganddynt am y Mimosa a sut i roi'r rhain mewn i berfformiadau bychain. Hyfryd hefyd oedd clywed y Gymraeg yn cael ei siarad.
Roedd y perfformiad yn Auditoria Municipal, Esquel yn un llwyddiannus eto gyda'r criw oedd yn perfformio, a'r gynulleidfa, dan emosiwn wrth ddilyn stori'r 'Mimosa.'..ond mi oedd hi yn anhygoel o boeth ar y llwyfan!
Taith i losgfynydd ac Asado gyda'r nos
Codi'n fore ac ar y bws ar daith arall. Cyrraedd afon Chubut, a oedd mor brydferth a heddychlon a phicnic bach wrth yr afon. Siwrnai fer yn y bws cyn dechrau cerdded tuag at y llosgfynydd pan gawsom wybod fod pumas yn byw o fewn yr ardal yma! Roedd y cerrig yn anferth a'r olygfa'n anhygoel.
Yna gyda'r nos cawsom Asado arall yn Parilla la Barra, Esquel a chwmni da Eluned ac Euros Jones o dde Cymru'n wreiddiol â ymunodd gyda ni. Roedd y bwyd o gig oen a digonedd o opsiynau eraill yn fendigedig a llond lle o ganu i roi terfyn ar y noson.
Perfformiad Trevelin a noson gyda'r gymuned yn Trevelin
Bach o ymlacio bore 'ma gyda'r dewis o fynd am dro neu gael amser i grwydro Esquel ymhellach. Cawsom wahoddiad heddiw i gael cinio ar ffarm Ryan (sydd hefyd yn rhan o'r sioe) a oedd ger Esquel. Roedd gweld y ffermydd o'n hamgylch yn fy atgoffa o fod yn ôl gartref yng Nghymru. Bws yn stopio a gweld gaucho yn dod tuag atom ni, ond dim gaucho dieithr oedd hwn ond Ryan yn dod i'n cyfarfod ar ei geffyl! Cinio gyda'r teulu ac yna allan i gwrdd â'r ceffylau.
Yna ymlaen i Drevelin. Dadlwytho'r gwisgoedd a'r set yn Salon Central, Trevelin. Tro bach sydyn o amgylch y dref, ble gwelsom lawer o lefydd bach Cymreig ac yna nôl i'r Salon Central er mwyn gwneud ein perfformiad olaf o'r sioe.
Wythnosau llawn chwerthin
Roedd yn deimlad od mai dyma fydd y tro olaf i ni berfformio'r 'Mimosa'. Roedd yr holl wythnosau o ymarfer a pherfformiadau di-ri yn dod i ben heno. Ond wythnosau llawn hwyl a chwerthin oedd y rhain, fyddai'n aros yn ein cof am byth. Wrth i'r sioe ddod at ei therfyn roedd pawb yn eu dagrau a'r gynulleidfa yn rhoi ein 6ed 'standing ovation' allan o 6 perfformiad yn y Wladfa. Roedd gweld a chwrdd â llawer o ddisgynyddion teithwyr y Mimosa yn brofiad anhygoel ac emosiynol iawn.
Taith tywys
Dyma ein diwrnod llawn olaf wedi cyrraedd. Ein hantur gyntaf oedd ymweld â'r Parc Cenedlaethol Los Alerces. Dyma le prydferth arall wrth i ni syllu ar lyn enfawr gyda mynyddoedd godidog yn ei amgylchu. Yn y pellter roedd y llyn a'r mynyddoedd, ac fe allem weld am filltiroedd. Roedd yr awyrgylch eto yn un heddychlon tra roedd pawb yn dawel am dipyn wrth i ni arogli'r awyr iach a chymryd mewn yr olygfa anhygoel. Profiad arbennig.
Noson Gymdeithasol yn Esquel
Yn ôl a ni i dreulio ein noson olaf yng nghwmni hyfryd trigolion Esquel wrth i ni ffarwelio a Michael a Ryan am y tro olaf. Ar ôl digon o fwyd blasus eto ymlaen a ni i'r gweithgareddau oedd wedi eu trefnu ar ein cyfer - yn gyntaf cystadleuaeth carioci yn y Gymraeg a'r Sbaeneg yna ymlaen at y twmpath gyda'r dawnsio gwerin yn cael ei ddysgu i ni gan y criw ifanc o Batagonia. Noson llawn chwerthin, cymdeithasu a joio.
Yn ôl i Buenos Aires
Bant a ni ar brynhawn ddydd Gwener tuag at faes awyr Esquel. Wrth i ni gyrraedd gwelsom y maes awyr lleiaf yn ein byw a ffarwelio ag Esquel mewn awyren fechan fach. Roedd yn emosiynol gadael Patagonia gan ein bod wedi cael yr amser mwyaf ffantastig dros y pythefnos diwethaf ac anodd oedd dweud ffarwel.
Cyrraedd Buenos Aires ac yn ôl i westy La Boca. Noson dda o gwsg cyn hedfan yn ôl i Gymru Fach yn y bore.
Yn ôl i Gymru Fach
Bant a ni ar y bws i faes awyr Buenos Aires, ac ar yr awyren i Heathrow.
A dyma ddiwedd ein taith. Diolch i bawb wnaeth wneud y trip yn un bythgofiadwy.
Cyfle newydd yw, O! mor bell Ym Mhatagonia.
Eto'n dechrau byw, O! doed y dydd,
Yfory'n rhydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2015