Merch 14 oed ar goll yn y Bala

  • Cyhoeddwyd
Melissa BowlesFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am wybodaeth am ferch 14 oed sydd ar goll o ardal y Bala. Nid oes neb wedi gweld Melissa Bowles, sydd yn wreiddiol o Wiltshire, ers 14:00 ddydd Iau, pan adawodd hi Ganolfan Hamdden y Bala.

Mae hi'n cael ei disgrifio fel merch pum troedfedd, pum modfedd o daldra, gyda gwallt hir melyn sydd fel arfer wedi ei godi uwch ei phen.

Roedd hi'n gwisgo top piws gwlanog, trowsus du a gwyn llac, ag esgidiau cerdded brown pan welwyd hi ddiwethaf. Roedd hi hefyd yn cario bag amryliw ar ei gefn.

Dywedodd PC Sioned Jones o orsaf yr heddlu Dolgellau: "Rwy'n apelio ar i unrhyw un sydd wedi gweld Melissa, neu'n gwybod ble mae hi, i gysylltu gyda'r heddlu am ein bod yn pryderu am ei lles. Hoffwn i ofyn i Melissa ei hun i gysylltu gyda'r heddlu, ei theulu neu ffrindiau i ddweud ei bod yn iach a diogel."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod S130675, neu drwy ffonio Taclo'r Taclau ar 0800 555 111 gan ddefnyddio'r un cyfeirnod.