Bragdai 'micro' ar gynnydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Os bydd nifer y bragdai annibynnol yn parhau i dyfu yna fe fydd yn agos at 100 mewn bodolaeth o fewn y flwyddyn nesaf.
Dyna farn y corff sydd yn cynrychioli bragdai 'micro', sydd yn dweud fod yr awch am gwrw crefftus mewn tafarndai ar gynnydd. Dim ond bragu nifer gymharol fechan o boteli mae bragdai micro yn ei wneud.
Daw hyn mewn cyfnod pan mae nifer y tafarndai traddodiadol yn crebachu, gyda thafarn yn cau am y tro olaf bob ychydig ddyddiau yng Nghymru.
Ond mae nifer y bragdai wedi dyblu yn y pum mlynedd diwethaf gan gyrraedd 88 i gyd.
"Mae'n tyfu'n sydyn iawn," meddai Buster Grant, cadeirydd Diodydd Cymru, sydd yn cynrychioli cynhyrchwyr annibynnol yn ogystal â cynhyrchwyr gwin a seidr.
Bydd cyfle i gynhyrchwyr arddangos eu cynnyrch mewn dau ddigwyddiad pwysig. Mae Cardiff Brew Fest yn cael ei gynnal y penwythnos hwn am mae gŵyl dros dri diwrnod yn cael ei chynnal yn Llundain fis nesaf, lle bydd 100 o wahanol fathau o gwrw o seidr o Gymru'n cael eu harddangos.
Cwrw crefftus
Dywedodd Mr Grant, sydd yn rheolwr gyfarwyddwr ar fragdy Brecon Brewery: "Mae 'na dwf mewn cwrw crefftus mewn llefydd fel Caerdydd lle mae pobl yn hoff o gwrw cryfach gyda blas mwy eithafol ond mae twf hefyd mewn cwrw mwy traddodiadol.
"Mewn cyfnod o lymder, nid yw pobl yn mynd allan mor aml ond pan maen nhw'n gwneud maen nhw'n chwilio am rywbeth gwahanol; maen nhw ychydig yn fwy dethol am ble maen nhw'n mynd ac yn barod i dalu ychydig yn fwy."
Dywedodd fod bragdai Cymru'n dosbarthu eu cwrw ar draws y DU ac yn edrych dramor hefyd. Yng Nghymru, mae gan 20 bragdy bychan eu tafarnau eu hunain erbyn hyn. Fe ddaeth pedwar bragdy micro - Bragdy Nant, Bragdy Conwy, Purple Moose a'r Great Orme - at ei gilydd i ail-agor tafarn yng Nghonwy dair blynedd yn ôl, ac maen nhw wedi prynu dwy dafarn arall yn ddiweddar.
Mae Bragdy Conwy yn cyflogi naw o bobl ac mae wedi mwynhau twf o 20% o flwyddyn i flwyddyn; gan werthu eu cynnyrch mewn bariau, bwytai a thafarndai.
Dywedodd perchenog y bragdy, Gwynne Thomas, fod darogan dyfodol y diwydiant yn beth anodd i'w wneud.
"Tua 2008, yng nghanol yr argyfwng ariannol, roeddwn yn credu fod y farchnad wedi ei throchi ond dros y blynyddoedd diwethaf mae twf wedi cyflymu.
"Mae'n beth cymharol syml, ond mae rhai pobl yn dda ar yr ochr dechnegol o fragu ond heb gael yr ochr drefnu yn iawn. Mae'n rhaid bod yn gryf yn y ddwy agwedd.
Mae'r Campaign for Real Ale (Camra) wedi cynnwys 14 o fragdai Cymreig newydd yn ei gyhoeddiad blynyddol y llynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Camra, Neil Walker, fod y cynnydd mewn nifer y bobl sydd yn sefydlu eu bragdai bach eu hunain neu'n dod o hyd i waith yn y diwydiant yn gallu bod yn newyddion da i ddyfodol cwrw a thafarndai."