Nam ysbyty yn atal llawdriniaethau
- Cyhoeddwyd

Mae nam ar y system awyru wedi golygu bod yn rhaid atal triniaethau llawfeddygol yn Ysbyty Llandudno am gyfnod.
Mae'r ddwy theatr yn yr ysbyty yn sir Conwy wedi cau oherwydd y nam, ac mae gwaith yn cael ei wneud i wella'r system awyru er mwyn gallu dechrau defnyddio'r theatrau eto.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae'n bwysig pwysleisio nad yw cleifion wedi dioddef o ganlyniad i gau'r theatrau".
Mae'r llawdriniaethau a oedd i'w cynnal yno wedi cael eu symud i Ysbyty Gwynedd, Bangor.