Pedwar yn yr ysbyty yn dilyn tân yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Tan

Mae pedwar person wedi'u cludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd.

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i'r tŷ ar Ffordd Cyncoed, Penylan ychydig cyn 19:00 nos Iau.

Roedd y tŷ yn wag erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd, ond roedd pedwar person wedi'u hanafu, ac fe'u cludwyd i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae Ffordd Cyncoed wedi'i chau gan yr heddlu.

Credir bod y tân wedi cychwyn mewn ystafell wely.