BBC Cymru Fyw

Ymgyrch i achub coeden 500 mlwydd oed ym Mhowys

Published
image copyrightTrreehunter.co.uk
image captionMae teulu Mervyn Jones wewdi bod yn gyfrifol am y goeden ers cannoedd o flynyddoedd
Mae ymgyrchwyr ym Mhowys eisiau newid llwybr ffordd £56m i achub coeden 500 mlwydd oed.
Mae ffordd osgoi'r Drenewydd yn ddibynnol ar ymchwiliad cyhoeddus.
Mervyn Jones sy'n berchen ar y tir, ac mae'n credu os nad yw'r ffordd yn cael ei adeiladu 15 metr i ffwrdd, bydd y gwreiddiau yn cael eu difrodi a bydd y goeden yn marw.
Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r problemau" ac yn disgwyl am ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus.
"Dy'n ni ddim yn ceisio rhwystro'r ffordd osgoi - dim ond eisiau achub y geoden ydyn ni," meddai Mr Jones wrth BBC Radio Wales.
Mae grwp ymgyrchu ar wefan Facebook i achub y goeden wedi denu cefnogaeth 3,000 o bobl.
Dywedodd llefarydd o Llywodraeth Cymru: "Dy'n ni'n ymwybodol o'r problemau gyda'r goeden. Ry'n ni'n disgwyl am ganlyniadau ymchwiliad cyhoeddus, a byddwn ni'n amlwg yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r pryderon sydd wedi'u codi."
image copyrightGoogle
image captionMae traffig wedi bod yn broblem fawr yn y Drenewydd