Dau ddyn wedi'u cyhuddo yn dilyn digwyddiad yn Llanelli
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad tua 15:50 brynhawn Mercher
Mae dau ddyn wedi'u cyhuddo yn gysylltiedig ag ysgarmes yn Llanelli welodd heddlu arfog yn cael eu gyrru i strydoedd y dref.
Fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gau Ffordd yr Orsaf prynhawn Mercher ar ôl ymateb i adroddiadau o ddyn wedi'i anafu.
Fe gafodd ddau ddyn, 31 a 23 oed, eu harestio yn hwyrach ac maen nhw bellach wedi'u cyhuddo o affräe, dwyn ac ymosod.
Bydd y dynion yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener.