Gweinidog 'â'i bryd' ar gymeradwyo trac rasio
- Cyhoeddwyd

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans, wedi dweud ei bod "â'i bryd ar gymeradwyo" cynlluniau ar gyfer trac rasio £325m yng nghymoedd de Cymru.
Fe fyddai'r gymeradwyaeth yn dibynnu ar y cwmni sy'n gwneud y cais yn cwblhau rhai amodau oedd eisoes wedi'u cytuno yn ymwneud â hawliau tir comin ar y safle.
Mae Cylchffordd Cymru, sydd wedi bod yn cael ei gynllunio ers pedair blynedd, wedi cael cefnogaeth arolygydd cynllunio ar ôl ymchwiliad.
Y gobaith yw y bydd y datblygiad yn Rasa ger Glyn Ebwy yn creu 6,000 o swyddi, a chynnal y MotoGP o 2017.
Mae wedi'i amcangyfrif y gallai ddenu 750,000 o ymwelwyr pobl blwyddyn, fyddai gwerth £45m i economi Cymru.
Mae Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd yn dweud bod ganddo gefnogaeth ariannol o Asia ar gyfer y cynllun.
Mae eisoes wedi sicrhau hawliau rownd Prydain o'r MotoGP, gafodd ei gynnal yn Silverstone eleni.
Dywedodd Rebecca Evans brynhawn Gwener: "Ar ôl ystyried y cais mae fy mryd ar ei gymeradwyo, ond rwy'n teimlo na allaf wneud penderfyniad ffurfiol tan i hawliau sydd wedi'u cofrestru ar dir comin gael eu dadgofrestru."
£200m o fuddsoddiad
Y gobaith yw y bydd Glyn Ebwy yn barod i gynnal y digwyddiad yn 2017.
Ond mae'r datblygiad wedi wynebu oedi. Mae pryder wedi bod am fywyd gwyllt ac am ei effaith amgylcheddol.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ohirio'r cynlluniau, aeth i ymchwiliad 10 diwrnod ym mis Mawrth.
Mae'r datblygwyr yn disgwyl gwerth £200m o fuddsoddiad preifat tuag at y cynllun.
Bydd cronfa hefyd yn cefnogi busnesau lleol, y celfyddydau a phrosiectau cymunedol dros 10 mlynedd.
Straeon perthnasol
- 10 Mawrth 2015
- 9 Mawrth 2015
- 21 Ionawr 2015