Llys hanesyddol yn agor ei ddrysau

  • Cyhoeddwyd
llys
Disgrifiad o’r llun,
Aelodau'r llys presennol yn cwrdd

Bydd y cyhoedd yn cael dysgu mwy am sustem gorfforaethol hynafol - a'r unig un o'i fath yng Nghymru - dros y penwythnos fel rhan o gynllun drysau agored Cadw.

Mae Corfforaeth Talacharn yn dyddio o'r Oesodd Canol ac mae'n dal i weithredu yn y pentref glanmôr yn Sir Gaerfyrddin.

Mae o yn un o gannoedd o leoliadau ledled Cymru a fydd yn rhoi mynediad am ddim, mynediad arbennig, neu'n darparu digwyddiadau arbennig i ymwelwyr gydol mis Medi.

Fe gafodd Corfforaeth Talacharn ei ffurfio yn 1291 gan Syr Guy de Brian ac i'r trigolion lleol roedd yn fraint arbennig gan eu bod bellach yn "ddynion rhydd".

Roedd ganddynt yr hawl i ethol eu harweinydd eu hunain - cannoedd o flynyddoedd cyn i hyn ddigwydd yng ngweddill Prydain - ac roeddynt yn rhannu defnydd a pherchnogaeth tiroedd ac eiddo'r Gorfforaeth.

Hyd heddiw, mae'r Gorfforaeth Hynafol, sy'n cynnwys dwsinau o bwysigion ac uwch fwrdeiswyr, yn parhau i reoli'r tir o'r ystafell llys yn Neuadd y Dref yn dyddio o'r 17eg ganrif, sydd yng nghanol tref Talacharn.

Sefydlaid unigryw

Pennaeth y Gorfforaeth yw'r Porthfaer, sy'n gyfystyr â maer, ac mae ei gadwyn yn cynnwys cregyn cocos aur gan adlewyrchu gorffennol y pentref fel man casglu cocos.

Disgrifiad o’r llun,
Y Porthfaer Philip Wilson gyda'i gadwyn arbennig

Mae'r Porthfaer yn cael ei ethol yn flynyddol gyda phob un a etholir yn ychwanegu un gragen gocos o aur pur at y gadwyn.

Dywedodd Philip Wilson, y Porthfaer presennol: "Gan ein bod yn un o'r sefydliadau hynaf yng Nghymru, rydym wrth ei bodd ein bod yn rhannu ein stori ac yn rhoi cipolwg prin i ymwelwyr ar weithgareddau yn ein llys, fel rhan o Drysau Agored eleni.

"Mae'r ffaith fod y Gorfforaeth wedi goroesi dros cynifer o ganrifoedd pan fo eraill wedi diflannu yn dystiolaeth o'r berthynas arbennig yr ydym wedi'i chreu gyda'r gymuned leol, a'n hymrwymiad i draddodiadau a gwerthoedd hirhoedlog y cyn Borthfeiri a'r uwch fwrdeiswyr a fu."