Gwahardd dau hyfforddwr cadéts am iaith amhriodol

  • Cyhoeddwyd
Army cadets

Mae dau wirfoddolwr gyda llu i bobl ifanc sy'n rhan o fyddin Prydain wedi'u gwahardd yn dilyn honiadau eu bod wedi defnyddio iaith amhriodol gyda phobl ifanc yng ngwersyll blynyddol y cadéts.

Fe gafodd y pâr eu gwahardd yn syth wedi cwyn.

Yn ôl llefarydd ar ran llu cadéts Gwynedd a Chlwyd, sydd â'i bencadlys ym Modelwyddan, mae'r honiadau yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd.

Polisi'r cadéts yw gwahardd staff neu wirfoddolwyr yn syth pan fo cwyn yn cael ei wneud.

Mae gan y cadéts 800 o aelodau ifanc a 180 o oedolion yn gwirfoddoli yng ngogledd Cymru.