Cyhuddo dau o greulondeb tuag at blant yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â chreulondeb tuag at blant yn dilyn ymchwiliad yng Ngwynedd.
Roedd y ddau ddyn, 41 a 43 oed, yn gweithio mewn uned gyfeirio ar gyfer disgyblion yn y Felinheli.
Cafodd y ddau eu hatal o'u gwaith yng nghanolfan Brynffynnon ym mis Mawrth 2014.
Dywedodd y Prif Arolygydd Andrew Williams o Heddlu'r Gogledd: "O ganlyniad i ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu'r Gogledd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd, mae dau berson wedi eu cyhuddo o droseddau creulondeb yn erbyn plant, yn groes i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933.
"Fe gyhuddwyd un dyn o 26 o droseddau mewn cyswllt â 26 disgybl yn yr ysgol, ac fe gyhuddwyd dyn arall yn gysylltiedig â 24.
"Fe ddigwyddodd y troseddau honedig rhwng Medi 2006 a Mawrth 2014."
Mae'r ddau wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth a bydd y ddau ddyn yn ymddangos ger bron Ynadon Caernarfon ym mis Hydref.