30 o dai yn hen stadiwm Abertawe

  • Cyhoeddwyd
llun artistFfynhonnell y llun, Gwalia housing
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd yr adeilad newydd ar Stryd William

Cynlluniau ar gyfer 30 o gartrefi un-llofft wedi eu cyhoeddi ar gyfer hen safle clwb pêl-droed Abertawe.

Cwmni Cartrefi Gwalia sy'n gyfrifol am y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno i Gyngor Abertawe, ac sy'n rhan o gynllun mawr ar gyfer y 'Vetch'.

Fe fyddai'r adeilad yn cael ei adeiladu ar Stryd William, lle oedd giatiau'r cae pêl-droed yn arfer bod.