Ailagor canolfan syrffio wedi nam technegol
- Cyhoeddwyd

Fe fydd canolfan syrffio yn ailagor ddydd Sadwrn wedi i dechnegwyr atgyweirio nam a orfodod y ganolfan i gau am 10 diwrnod.
Fe gafodd lagŵn Surf Snowdonia yn Nolgarrog, Dyffryn Conwy, ei llenwi â chwe miliwn galwyn o ddŵr ar gyfer yr agoriad ar 1 Awst.
Ond roedd yn rhaid ei wagio er mwyn i beirianwyr atgyweirio nam oedd yn effeithio ar y peiriant tonnau.
Daeth tua 14,000 o bobl i ymweld â'r ganolfan yn ystod y pythefnos cyntaf.