Cynlluniau ar gyfer hen ysbyty meddwl yn Nhalgarth
- Published
Mae cynlluniau i ailddatblygu hen ysbyty seiciatryddol ym Mannau Brycheiniog wedi eu cyhoeddi.
Fe geuodd hen Ysbyty Canolbarth Cymru yn Nhalgarth yn 1999, ac mae cyflwr yr adeilad wedi dirywio.
Fe gafodd cais blaenorol i ddymchwel yr adeilad er mwyn gwneud lle i 100 o gartrefi a chartref gofal ei wrthod yn 2012.
Fe fydd y datblygwr Phil Collins yn bresennol yng Ngŵyl y Mynydd Du yn Nhalgarth dros y penwythnos i gasglu barn pobl ar y safle.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Hydref 2012