Hwb: Cychod rasio ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae un o ddigwyddiadau cychod rasio mwya'r byd ym Mae Caerdydd ddydd Sul a dydd Llun yn cael ei weld fel arwydd o allu Cymru i ddenu digwyddiadau chwaraeon mawr, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Bydd pedwaredd rownd pencampwriaeth SuperStock ac AquaX UK yn dychwelyd i'r brifddinas gyda chefnogaeth y llywodraeth.
Bydd Gweinidog Economi Cymru Edwina Hart yn bresennol ddydd Sul, a dywedodd:
"Mae'r penwythnos yn gyfle i hybu Bae Chaerdydd a Chymru fel cyrchfan i gampau dŵr, ac yn lle gwych i dwristiaid.
"Rydym yn ffodus i gael adnoddau a lleoliadau delfrydol yma."
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog dros Dwristiaeth a Chwaraeon Ken Skates:
"Mae yna gydnabyddiaeth erbyn hyn bod Cymru'n gallu cynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr... mae'r haf wedi bod yn gymysgedd o ddigwyddiadau mawr a bach, ac mae'r cyfan yn cyfrannu at yr economi.
"Mae mwy i ddod gyda Grand Depart ras feicio'r Tour of Britain fis nesaf ynghyd â Phencampwriaeth Rhedeg Mynydd y Byd ac wyth o gemau Cwpan Rygbi'r Byd yn Stadiwm y Mileniwm.
"Mae'r arwyddion cyntaf yn dangos bod Cymru wedi cynyddu'i siâr o wariant twristiaeth, gyda chyfran uwch na'r DU gyfan ar gyfartaledd."
Ddydd Llun hefyd bydd y gêm griced 20 pelawd ryngwladol rhwng Lloegr ac Awstralia'n cael ei chynnal yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd yn dilyn llwyddiant gêm brawf gynta'r Lludw yn gynharach yn yr haf.
Er hynny mae un cyn bennaeth twristiaeth yng Nghymru wedi beirniadu rhai o'r gwestai yng Nghaerdydd a'r cyffiniau am godi'u prisiau'n sylweddol yn ystod digwyddiadau mawr, gan ddweud bod hynny'n "niweidio delwedd Caerdydd".
Fe wnaeth Jonathan Jones ei sylwadau wedi clywed bod un gwesty yng Nghaerdydd wedi newid y pris arferol o £97 y noson i bron £600 am noson un o gemau rygbi Cwpan y Byd.