Buddugoliaeth i Gymru yn Nulyn

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, ©INPHO/Dan Sheridan

Iwerddon 10-16 Cymru

Mae Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ar ôl brwydr gorfforol dros ben yn Nulyn.

Roedd hi'n ddechrau hyderus gan Gymru - ac roedden nhw ar y blaen ar ôl 17 munud yn dilyn cic gosb gan Leigh Halfpenny.

Roedd tîm profiadol Cymru yn rheoli'r meddiant am gyfnodau hir - ac fe ddaeth cais i'r crysau cochion ar ôl 25 munud, Justin Tipuric yn croesi mewn sgarmes fawr yn dilyn llinell ymosodol yng nghornel y Gwyddelod.

Tarodd Iwerddon yn ôl - cig gosb gan Johnny Sexton ac yna, eiliadau cyn yr egwyl, sgoriodd Iain Henderson o dan y pyst ar ôl cyfnod hir o ymosod.

Ffynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,
Ken Owens yn brwydro yn erbyn sgoriwr cais Iwerddon, Iain Henderson

Pan ddechreuodd yr ail hanner roedd hi'n ddeg pwynt yr un, a bu'n rhaid i Gymru frwydro yn galed i atal y Gwyddelod unwaith eto.

Hanner ffordd drwy'r ail hanner fe aeth Cymru ar y blaen - Halfpenny a chic gosb unwaith eto.

Ar ôl 70 munud roedd hi'n 16-10 i Gymru, ar ôl Halfpenny gosbi Iwerddon am gamsefyll o flaen y pyst.

Roedd amddiffyn Cymru o dan bwysau mawr tan yr eiliad olaf - ond roedd hi'n fuddugoliaeth haeddiannol yn y diwedd mewn gem brawf anodd a chorfforol.

Ffynhonnell y llun, ©INPHO/Ryan Byrne