Caerdydd yn curo Forest
- Cyhoeddwyd

Y ddau sgoriwr, Kenwyne Jones a Joe Mason, yn dathlu
Nottm Forest 1-2 Caerdydd
Mae Caerdydd wedi ennill am y tro cyntaf oddi cartref y tymor hwn ar ôl trechu Nottingham Forest o ddwy gol i un.
Sgoriodd Kenwyne Jones a Joe Mason i'r ymwelwyr, cyn i Forest daro 'nol â gôl yn y munudau olaf.
Fe aeth Caerdydd ar y blaen ar ol 22 munud - Jones yn penio croesiad Peter Whittingham i gefn y rhwyd.
Ar ol 49 munud sgoriodd yr adar gleision un arall- Joe Mason â pheniad o gic cornel.
Daeth unig gol Forest bum munud o'r diwedd.
Mae Caerdydd yn parhau i fod yn ddi-guro yn y bencampwriaeth.