Canmoliaeth i Tipuric ar ôl curo'r Gwyddelod

  • Cyhoeddwyd
TipuricFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,
Justin Tipuric yn dathlu sgorio unig gais Cymru yn Nulyn

Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi canmol perfformiad Justin Tupiric yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn,

Yn ôl Gatland roedd y blaenasgellwr wedi chwarae ei gem "gorau erioed i Gymru" yn ystod y fuddugoliaeth 16-10 yn erbyn Iwerddon

Sgoriodd Tipuric unig gais Cymru ac fe gafodd e wobr chwaraewr gorau'r gêm yn dilyn ei berfformiad egniol.

Roedd Tipuric yn chwarae yn dilyn absenoldeb y capten Sam Warburton yn dilyn man anaf i'w ysgwydd.

"Mae gennym ddau rif saith o safon byd" meddai Warren Gatland, a fydd yn dewis y garfan 31 dyn ar gyfer Cwpan y Byd ddydd Llun.

Fe all Tipuric fod yn hyderus iawn o'i le, ond fe fydd ganddo deimladau cymysg ar ôl cael ei adael allan o' r garfan yn 2011.

Cafodd Alun Wyn Jones a Jamie Roberts eu hanafu yn Nulyn ond dywedodd Warren Gatland nad oedd yr anafiadau yn achosi pryder iddo wrth iddo baratoi i enwi'r garfan derfynol.

Ffynhonnell y llun, ©INPHO/Dan Sheridan