Streic yn cau Amgueddfa Lofaol Cymru

  • Cyhoeddwyd
llanberis
Disgrifiad o’r llun,
Undebwyr yn picedu yn Llanberis dydd Sadwrn

Mae Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau y penwythnos hwn oherwydd anghydfod am gyflogau.

Mae aelodau Undeb y PCS yn gwrthwynebu cynlluniau i atal taliadau ychwanegol a delir i staff sy'n gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc.

Mae llefarydd ar ran Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra i gwsmeriaid yn ystod y streic.

Dywedodd y byddai codiad cyflog o 4% ar gyfer gweithwyr cyflog isel, a'r cynnig o gyflog byw o £7.85 yr awr, yn lliniaru'r golled.

Dywedodd llefarydd "Mae trafodaethau Amgueddfa Cymru gydag Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) drwy ACAS ar ddyfodol y taliadau premiwm, ymysg materion eraill, yn parhau.

"Rydym yn dal yn gobeithio dod i gytundeb ar y mater hwn, felly siom oedd cael gwybod am fwriad PCS i barhau â'u gweithredu diwydiannol yn ystod y broses gymodi."

Mae'r streic wedi cael effaith mewn chwech o safleoedd Amgueddfa Cymru; bu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ac Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre, ar gau ddydd Sadwrn.

Fe fydd Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon, Torfaen, ar gau trwy gydol y penwythnos.