Streic Amgueddfa'n parhau

  • Cyhoeddwyd
streic Llanberis
Disgrifiad o’r llun,
Picedwyr y tu allan i'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis ddydd Sadwrn

Mae Amgueddfa'r Pwll Mawr ym Mlaenafon ar gau eto ddydd Llun oherwydd anghydfod cyflogau.

Aelodau undeb y PCS sy'n erbyn cynlluniau i atal taliadau ychwanegol i staff sy'n gweithio ar benwythnosau ac yn ystod cyfnodau gwyliau cyhoeddus.

Mae llefarydd ar ran Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi mynegi siom. Dywedodd llefarydd: "Mae trafodaethau Amgueddfa Cymru gydag Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) drwy ACAS ar ddyfodol y taliadau premiwm, ymysg materion eraill, yn parhau.

"Rydym yn dal i obeithio dod i gytundeb ar y mater hwn, felly siom oedd cael gwybod am fwriad PCS i barhau â'u gweithredu diwydiannol yn ystod y broses gymodi."

Oherwydd y streic roedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ac Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre, ar gau ddydd Sadwrn.

Mae'r amgueddfa ym Mlaenafon wedi bod ar gau trwy gydol y penwythnos gŵyl y banc.