Gatland i gyhoeddi carfan Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
alun wynFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Y dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn Iwerddon

Bydd hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland, yn enwi'r garfan derfynol ar gyfer Cwpan y Byd.

Am hanner dydd bydd enwau'r 31 o chwaraewyr yn cael eu cyhoeddi.

Eisoes mae Gatland wedi dangos ei fod yn barod i wneud penderfyniadau anodd ar ôl iddo beidio â chynnwys Richard Hibbard, James Hook a Mike Phillips yn y garfan ddiweddara.

Mae 38 o chwaraewyr yn y garfan ar hyn o bryd.

Yn dilyn y fuddugoliaeth 16-10 yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn fe ddywedodd Gatland ei fod yn bwriadu enwi 17 blaenwr a 14 o olwyr yn y garfan, gan gynnwys tri bachwr a thri mewnwr.

"Mae 24-25 o chwaraewyr yn y garfan yn bendant ond mae'n rhaid i ni drafod y garfan derfynol," meddai.

"Bydd rhai chwaraewyr yn anlwcus iawn i fethu'r cyfle ond fy neges iddyn nhw yw hyn: 'Cadwch eich pen i lawr oherwydd fe fydd anafiadau yn ystod Cwpan y Byd ac fe fydd cyfleoedd i chwaraewyr ddod 'nol i'r garfan.

"Rhan anodda'r swydd yw peidio dewis rhywun, nid honna yw'r neges fwya dymunol i roi i'r chwaraewyr."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Gatland yn barod i wneud penderfyniadau anodd

Ymhlith y dewisiadau anodd yw penderfynu tynged y chwaraewyr sydd wedi eu hanafu.

Dyw'r prop Samson Lee, na'r cefnwr Liam Williams ddim wedi chwarae ers y tymor diwethaf.

Mae'r maswr Gareth Anscombe yn dioddef o anaf i'w figwrn.

Cafodd Alun Wyn Jones a Jamie Roberts anafiadau yn ystod y gêm ddydd Sadwrn ond mae disgwyl iddyn nhw fod yn holliach.