BBC Cymru Fyw

Abertawe yn curo Manchester United

Published
image copyrightReuters
image captionBafetimbi Gomis yn sgorio ail gôl Abertawe
Mae llwyddiant Abertawe yn yr Uwch Gynghrair yn parhau ar ôl buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Manchester United yn stadiwm Liberty.
Bu'n rhaid i Abertawe fwydro yn ôl wedi i United fynd ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner.
Cafodd Wayne Rooney gyfle hwyr i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr - ond fe ddaeth tacl allweddol gan gapten Cymru, Ashley Williams, i achub ei dîm.
Cafodd United ddechrau addawol i'r gêm wrth iddyn nhw reoli'r meddiant.
Fe ddaeth cyfle da iddyn nhw ol 20 munud - Juan Mata yn taro'r bêl heibio'r postyn dde ar ôl chwarae creadigol da.
Yna fe gafodd Abertawe sawl cyfle - roedd ymdrech Sigurdsson yn agos iawn, cyn i Gomis daro'r postyn.
Ar ol hanner awr fe ddaeth cyfle da i Rooney - ond roedd ei ergyd yn rhy wan i fygwth y gôl.
Fe ddaeth gôl United ar ôl 48 munud - Jan Mata yn curo Ashley Williams wrth y postyn pellaf ar ôl croesiad gan Luke Shaw.
image copyrightMichael Regan
image captionMata yn ergydio i gefn rhwyd Abertawe
Ar ôl awr fe ddaeth ymateb pendant gan Abertawe. Yn gyntaf, peniad Andre Ayew yn taro cefn y rhwyd ar ôl croesiad Gylfi Sigurdsson.
Yna fe chwalwyd amddiffyn United unwaith eto gan Ayew - y tro hwn gyda phas wych i'r sgoriwr Bafetimbi Gomis yn y cwrt cosbi.
image copyrightGetty Images
image captionGomis yn dathlu