Criwiau'n ceisio diffodd tân ger Y Bontfaen
- Published
Mae swyddogion tân o hyd yn ceisio diffodd tân mawr ger Y Bontfaen ym Mro Morgannwg.
Dechreuodd y tân ychydig cyn 14:00 ddydd Sul ar Stad Ddiwydiannol Llandŵ.
Drwy'r nos roedd saith injan dân a 50 o ddiffoddwyr yno a dywedodd llygaid-dystion fod mwg yn amlwg am filltiroedd.
Mae swyddogion amgylchedd yn cadw golwg ar y sefyllfa.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn ceisio lleihau effeithiau'r tân ar bobl leol a'r amgylchedd.
"Mae nifer wedi gadael y parc carafanau'n barod," meddai'r perchennog Sharon Evans.
"Y drafferth yw bod drewdod a sneb yn gwybod beth maen nhw'n anadlu."
'Atal rhag lledu'
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân: "Tua 15:50 brynhawn ddoe fe gawson ni alwad a chyrhaeddodd criwiau o Lanilltud Fawr, Y Bontfaen a'r Barri.
"Roedd y tân 45 o fetrau o led a 50 o fetrau o hyd. Yr uchder oedd 25 o fetrau.
"Wedyn cyrhaeddodd mwy o griwiau, o'r Bontfaen, Pencoed a'r Barri.
"Llwyddodd diffoddwyr i atal y tân rhag lledu i gannoedd o dunelli o ddeunydd gwastraff gerllaw."
Mae'r Gwasnaeth Tân a'r heddlu'n ymchwilio.