Iechyd: Mwy na 500 yn protestio yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Protest yn Y RhylFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Dechreuodd y brotest am 13:00

Mae mwy na 500, sy'n erbyn newidiadau i wasanaethau iechyd yn y gogledd, wedi bod yn protestio yn Y Rhyl.

Dechreuodd y brotest am 13:00.

Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod yn ystyried ymgynghori ynglŷn â dileu rhai gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.

Yn gynharach eleni roedd cannoedd yn protestio oherwydd cynlluniau gwreiddiol y bwrdd iechyd.

Trafod

Fe ohiriwyd cyflwyno cynlluniau i roi'r gorau i wasanaethau gofal mamolaeth ym Modelwyddan wedi beiniadaeth.

Mae gwleidyddion ac arbenigwyr iechyd wedi bod yn trafod syniadau ynglŷn â sut i gadw gwasanaethau meddygon yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae disgwyl i'r bwrdd iechyd gyflwyno'r cynlluniau diweddaraf ynglŷn â'r newidiadau yn fuan cyn ymgynghori â'r cyhoedd.

Disgrifiad o’r llun,
Ym mis Chwefror roedd cannoedd yn protestio yn erbyn cynlluniau'r bwrdd iechyd