Cadeirydd yn cyhoeddi carfan Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Anscombe
Disgrifiad o’r llun,
Anafodd Anscombe ei figwrn mewn sesiwn hyfforddi

Dyw Gareth Anscombe ddim yn ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Chwaraeodd y maswr, gafodd ei eni yn Seland Newydd, yn erbyn Iwerddon ond anafodd ei figwrn yn ystod sesiwn hyfforddi.

Bydd Matthew Morgan, sy'n chwarae i Fryste, yn ei le.

Mae'r prop Samson Lee yn y garfan er nad yw wedi chwarae ers iddo gael anaf ym mis Mawrth.

Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, gyhoeddodd y garfan derfynol a chafodd y 31 o chwaraewyr eu cyhoeddi am 12:05.

Dyma'r manylion:

Blaenwyr: Tomas Francis (Exeter Chiefs), Paul James (Gweilch), Aaron Jarvis (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Samson Lee (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Bradley Davies (Wasps), Dominic Day (Caerfaddon), Alun Wyn Jones (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau), James King (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, capten).

Olwyr: Gareth Davies (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Caerfaddon), Cory Allen (Gleision), Jamie Roberts (Harlequins), Scott Williams (Scarlets) Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), Leigh Halfpenny (Toulon), Matthew Morgan (Bryste), George North (Northampton Saints), Liam Williams (Scarlets).

Mae'n bosib na fydd Alun Wyn Jones yn chwarae yn erbyn Uruguay ar 20 Medi oherwydd anaf i'w ben-glin yn y gêm yn erbyn Iwerddon.

"Fydd e ddim yn holliach am ychydig o wythnosau ond mae'n anodd dweud ...

"Mae'r ail reng yn hollbwysig i ni ac roedd Alun yn wych yn erbyn Iwerddon."

'Yn anlwcus'

Cyn y cyhoeddiad ddydd Llun dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland: "Mae 24-25 o chwaraewyr yn y garfan yn bendant ond mae'n rhaid i ni drafod y garfan derfynol.

"Bydd rhai chwaraewyr yn anlwcus iawn i fethu'r cyfle ond fy neges iddyn nhw yw hyn: 'Cadwch eich pen i lawr oherwydd fe fydd anafiadau yn ystod Cwpan y Byd ac fe fydd cyfleoedd i chwaraewyr ddod 'nol i'r garfan'.

"Rhan anodda'r swydd yw peidio dewis rhywun, nid honna yw'r neges fwya dymunol i roi i'r chwaraewyr."