Llosgi bwriadol: Dyn yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
Llys
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y diffynnydd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug yr wythnos nesa

Mae dyn 18 oed yn y ddalfa ar gyhuddiadau o losgi bwriadol wedi i 12 o gerbydau gael eu rhoi ar dân.

Clywodd Llys Ynadon Sir y Fflint honiadau fod Stephen Evans o Dreffynnon wedi rhoi ceir ar dân yn y dre yn oriau mân dydd Sadwrn ac iddo fwriadu peryglu bywyd neu fod yn ddihid a fyddai bywyd yn cael ei beryglu.

Roedd y ceir ger cartrefi pobl.

Hefyd mae'n wynebu pum cyhuddiad o ddwyn eitemau, gan gynnwys offer llywio lloeren, a bydd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 11 Medi.

Cafodd mechnïaeth ei gwrthod oherwydd natur y troseddau honedig.