Risg llifogydd: Symud graean o dan bont Dolgellau
- Cyhoeddwyd

Y Bont Fawr yn Nolgellau
Mae 1,500 o dunelli metrig o raean yn cael eu symud er mwyn ceisio lleihau risg llifogydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n symud y graean o dan y Bont Fawr yn Nolgellau am ei fod yn arafu llif y dŵr.
Yn ystod glaw trwm fe allai hyn achosi llifogydd.
Mae cynllun ar gost o £5.6m i godi amddiffynfeydd rhag llifogydd ar afonydd Wnion ac Aran.