Cymdeithas y Gyfraith yn beirniadu cau llysoedd barn
- Published
Wrth i gyngor sir drafod cynlluniau yn eu hardal nhw, mae Cymdeithas y Gyfraith wedi beirniadu cau ac integreiddio llysoedd.
Cyngor Sir Gaerfyrddin oedd yn trafod y mater ddydd Mawrth.
Mae Llywodraeth y DU am gau 91 o lysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, rhai sydd ddim yn "angenrheidiol" yn eu barn nhw.
Yng Nghymru mae'r canlynol o dan fygythiad:
Llysoedd Barn Aberhonddu, Pen-y-bont a Chaerfyrddin, Llysoedd Sifil a Theulu Caerfyrddin, Llangefni, Castell-nedd a Phort Talbot, Llys y Goron Dolgellau, Llysoedd Ynadon Dolgellau, Caergybi, Pontypridd a Phrestatyn.
Dywedodd Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Jonathan Smithers: "Mae hyrwyddo ac amddiffyn mynediad i gyfiawnder i bawb, ble bynnag a lle bynnag y maen nhw, yn fater hollbwysig sy'n uno ein haelodau ni.
"Rydym yn pryderu'n fawr y bydd cau ac integreiddio llysoedd yng Nghymru - a chodi ffïoedd llysoedd a threfnu bod llai'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol - yn golygu y bydd llai'n cael; mynediad i gyfiawnder."
Diffyg trafnidiaeth
Dywedodd arweinydd y cyngor sir, Emlyn Dole, y byddai'n "amhosib" i rai gyrraedd y llysoedd o dan y drefn newydd.
Cyfaddefodd nad oedd rhai adeiladau'n cael eu defnyddio'n ddigon aml - dim ond 11% o'r amser yr oedd Neuadd y Dre Caerfyrddin yn cael ei defnyddio.
Ond dywedodd nad oedd diffyg trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig wedi ei ystyried yn ddigonol yn yr adroddiad.
Dywedodd Mr Smithers fod y mudiad yn casglu tystiolaeth am effeithiau'r cynlluniau ar gyfreithwyr a'r cyhoedd.
Daw ymgynghoriad y llywodraeth i ben ar 8 Hydref.
Straeon perthnasol
- Published
- 22 Gorffennaf 2015
- Published
- 16 Gorffennaf 2015