Lluniau: Gŵyl Crug Mawr
- Cyhoeddwyd
Ar y 28-29 Awst cafodd Gŵyl Crug Mawr ei chynnal yn Aberteifi. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau mewn lluniau. Mae'r lluniau wedi eu tynnu gan Guto Vaughan, sy'n wreiddiol o'r ardal. Mwynhewch!
"Gwisgwch eich gwregysau diogelwch a mwynhewch y daith"
'Dy ni'n hen gyfarwydd â phafiliwn pinc y Steddfod ond dyma i chi fêls gwair pinc Crug Mawr!
Mae hi wedi bod yn haf prysur i Swnami, un o atyniadau mawr yr wŷl
"Gobeithio bydd 'na olygfa dda wedi i mi gyrraedd y copa!"
Gwilym, lleisydd Y Bandana
Mae 'na hwyl i bawb o bob oed yng Nghrug Mawr
Geraint Løvgreen a'r band yn diddanu'r dorf bnawn Gwener
Iechyd da! Mae'r ddau ffrind yma wedi dod o hyd i'r bar-f!
Wedi'r holl sibrydion daeth torf dda i weld Welsh Whisperer ar lwyfan y Castell
"Yw e'n brathu?"
Ail Symudiad yn mwynhau perfformio yn eu milltir sgwâr
Fydd y gitarydd ifanc yma yn rhan o lein-yp Gŵyl Crug Mawr yn y dyfodol?
"Gobeithio i chi fwynhau hedfan trwy oriel Crug Mawr. Dewch nôl eto'r flwyddyn nesa'"