BBC Cymru a Chwaraeon Cymru'n lansio Gwobrau Chwaraeon

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,
Geraint Thomas oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn 2014

Mae BBC Cymru a Chwaraeon Cymru wedi dechrau chwilio am sêr disgleiriaf y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod 2015.

Caiff y cyhoedd yng Nghymru gyfle i gyfrannu i'r platfform pwysig ar gyfer chwaraeon Cymru drwy sicrhau bod eu harwyr chwaraeon yn cael eu hanrhydeddu am eu sgiliau.

Ar ôl llwyddiant Gwobrau Chwaraeon Cymru, gafodd eu cynnal am y tro cyntaf yn 2013, mae dathliad blynyddol mwyaf y wlad o'r gorau ym meysydd chwaraeon elite a llawr gwlad yn parhau i ddenu enwebion o'r wlad i gyd.

Bydd noson Gwobrau Chwaraeon Cymru yn cael ei chynnal nos Lun, 7 Rhagfyr yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

Ar lawr gwlad

Ymhlith y gwobrau fydd yn cael eu rhannu bydd gwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.

Mae'r cyhoedd yng Nghymru'n cael enwebu pobl ar gyfer y gwobrau ar lawr gwlad ac mae'r enwebiadau'n agor ddydd Mawrth, 1 Medi, ac yn cau ddydd Gwener, 25 Medi.

Dyma'r adrannau sy'n agored ar gyfer cyflwyno enwebiadau:

  • Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn;
  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn;
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn;
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn;
  • Hyfforddwr Pobl Anabl y Flwyddyn;
  • Gwobr Cyflawniad Oes (Cymunedol).

Hefyd bydd gwobr Arwr Tawel y BBC ar y noson gyda'r cynrychiolydd o Gymru yn cystadlu wedyn yn erbyn enillwyr rhanbarthol Lloegr, Iwerddon a'r Alban.

Gall unigolion sydd wedi eu henwebu yn y gorffennol ac heb ddod i'r brig gael eu henwebu eto eleni.

Caiff enillydd y wobr hon ei gyhoeddi yn ystod rhaglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn Belfast, dydd Sul, 20 Rhagfyr. Mae'r enwebiadau'n yn cau dydd Iau, 22 Hydref.

'Cydnabod ymroddiad'

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies: "Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru yn gyfle i edrych yn ôl ar y flwyddyn a chydnabod ymroddiad unigolion ar bob lefel sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Cymru fel cenedl sy'n rhagori ym myd chwaraeon."

Ychwanegodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: "Mae'r bartneriaeth â BBC Cymru i gynnal Gwobrau Chwaraeon Cymru yn parhau i gryfhau.

"Ein nod yw hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru ac i ddathlu llwyddiant yr unigolion talentog sy'n gwireddu hyn ar bob lefel.

"Fel rhan o'r panel 'rwy'n cael fy ysbrydoli wrth ddysgu am y rhai sydd yn y rownd derfynol a'u cyrhaeddiad anhygoel.

"Mae chwaraeon yn rhan o wead bywyd Cymru ac mae cydnabod gwaith da sydd yn aml yn pasio'n ddi-sylw yn hanfodol os ydym am gadarnhau ein pwysigrwydd wrth wraidd cymunedau yng Nghymru.

'Arwyr'

"Rydym am i fwy o'r boblogaeth ddod yn rhan o'r gweithlu chwaraeon a chynyddu lefelau cyfranogaeth, ac mae angen i ni ddangos pa mor bwysig ydyn nhw i'r amcan yma.

"Rydym yn dibynnu ar enwebiadau cyhoeddus i ddewis y unigolion sy'n arwyr i gymaint ohonoch felly byddwn yn eich annog i gyd i neilltuo yr amser i wneud hynny."

Mae rhagor o fanylion am yr adrannau a sut mae enwebu a phleidleisio ar gael ar www.walessportawards.co.uk

Bydd y seremoni yn cael ei darlledu'n fyw ar bbc.co.uk/sportwales ac hefyd ar y Botwm Coch ac BBC iPlayer.