Wrecsam yn colli i Cheltenham
- Cyhoeddwyd

Cheltenham 2-1 Wrecsam
Mae Wrecsam wedi colli i Cheltenham oddi cartre wedi pum buddugoliaeth yn olynol ar y Cae Ras.
Rhwydodd Danny Parslow ac Amari Morgan-Smith i'r tîm cartre ac unig gysur y Cymry oedd gôl James Gray.
Dyw Cheltenham ddim wedi colli eto'r tymor hwn.
Yn Uwchgynghrair Cymru trechodd Y Bala Airbus o 2-1.