Canfod corff mewn afon yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i gorff gael ei ganfod yn Afon Taf yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i'r safle ger Stryd y Castell am tua 14:00 brynhawn Sul, 31 Awst.
Cafodd y corff ei dynnu o'r afon am 18:35.
Bu timau arbenigol yn rhan o'r chwilio yn yr afon, ac ar un cyfnod roedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn rhan o'r cyrch.