Anafiadau difrifol mewn ymosodiad

  • Cyhoeddwyd

Fe ddywed yr heddlu bod dyn 19 oed wedi cael anafiadau "fydd yn newid ei fywyd" yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Prestatyn, Tredelerch am tua 22:00 nos Sul, 30 Awst.

Fe ddywed Heddlu'r De bod y dyn wedi ael ei gludo i Ysbyty Athrofaol y brifddinas.

Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1500319490.