URC yn arbrofi gyda phwyntiau

Pontypridd take on Ebbw Vale Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Pontypridd yn herio Glyn Ebwy y tymor diwethaf

Mae Undeb Rygbi Cymru'n bwriadu arbrofi gyda sustem bwyntiau newydd yn Uwchgynghrair Rygbi Cymru, yn ôl clwb Pontypridd.

Nid yw'r Undeb wedi cadarnhau'r newidiadau hyd yn hyn.

Mewn datganiad datgelodd Pontypridd mai'r bwriad yw rhoi chwe phwynt am gais (yn hytrach na'r pump presennol) a dau bwynt yn lle tri am giciau cosb a goliau adlam.

Fe ddywed y clwb mai'r bwriad yw annog rygbi ymosodol.

Ymysg y newidiadau eraill, fe fydd cais cosb yn ennill wyth pwynt yn syth. Yn ogystal bydd rhaid i bob tîm gael wyth chwaraewr mewn sgarmes hyd yn oed os oes un o'r blaenwyr yn y cell cosb neu wedi ei hel o'r maes.

Mae clwb Pontypridd yn honni mae dyma'r lle cyntaf yn y byd i reolau o'r fath gael eu gweithredu.